Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
4 Gorffennaf 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4997
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd y 6 chwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.43
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
David Rees (Aberafan): Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf ynghylch uno TATA steel a Thyssenkrupp ar y diwydiant dur yng Nghymru?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addsyg:
Atebwyd gan: Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a wnaed gan berchennog Trago Mills fod arwyddion Cymraeg yn annibendod gweledol?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau adrefnu llywodraeth leol yn dilyn ei sylwadau yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 29 Mehefin 2018?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr achosion diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru?
Dechreuodd yr eitem am 15.14
Gwnaeth David
Rees ddatganiad ar gydnabod cyfraniad y Dr Julian Tudor Hart i ofal
iechyd yn Nyffryn Afan a sefydlu’r ddeddf gofal gwrthgyfartal
a gydnabyddir gan lawer, erbyn hyn, fel deddf a oedd yn
chwyldroadol ar y pryd. Bu farw’r Dr Hart dros y
penwythnos.
Gwnaeth Dai Lloyd ddatganiad ynghylch Meic Stephens a fu farw
ddoe.
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad
ar 90 mlynedd ers Deddf
Cynrychiolaeth y Bobl (Etholfraint Gyfartal) 1928
Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog
2018.
Dechreuodd yr eitem am 15.21
NDM6756 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Emosiynol ac Iechyd Medwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM6740 Lee Waters (Llanelli)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion.
2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar sut y mae GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gyda Capita.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.29
NDM6758 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru: ystyr ystadegau yn ymarferol; rôl Llywodraeth Cymru; ac effaith Brexit ar yr agenda tlodi plant.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.49
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.02, Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2018